Cover Image for Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol
Cover Image for Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol
Hosted By

Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Approval Required
Your registration is subject to approval by the host.
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

Mae gennym gyfle cyffrous i sefydliadau trydydd sector Cymru ymuno â ni ar her ddylunio. 

Byddwn yn edrych ar sut gall digidol wella’r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu i’ch defnyddwyr drwy ddilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu. 

💡Nodau  

  • ​Darparu gwybodaeth a sgiliau i'r cyfranogwyr fel y gallant gynllunio gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person. 

  • ​Hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i arbed amser a macsimeiddio'r effaith gymdeithasol. 

🧑‍🏫 Deilliannau dysgu 

Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn: 

  • ​Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu 

  • ​Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio 

  • ​Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol 

  • ​Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol 

  • ​Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth 

  • ​Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd 

  • ​Cael mynediad at adnoddau  

​​Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs (er nad yw'n hanfodol). Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.

📢 Mae mynychwyr cynt wedi dweud

"Rwyf wastad yn gwella bob rhan o'm diwrnod gwaith wrth feddwl sut gallaf roi'r hyn a ddysgais ar waith."

"Mae hud yn yr ystafell yma"

"Mae'r agwedd sgrialfwrdd o bethau ddim yn gorfod bod yn berffaith yn syth wedi gwir newid fy meddylfryd yn broffesiynol ac yn bersonol."

"Mae angen i bob sefydliad trydydd sector wneud hyn"

📅  Strwythur y cwrs  

​Dros yr 10 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr. 

Cyfnod Darganfod 

1. Gweminar Cyflwyno: 13 Ionawr 10 am - 1 pm [AR-LEIN]. 

  • ​Bydd y cwrs yn dechrau gyda gweminar hanner diwrnod lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg dylunio gwasanaeth, sut beth yw'r broses, a sut i ddeall anghenion defnyddwyr yn well. 

  • ​Yna bydd gennych bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ble y gallech fod yn arbed amser.

Cyfnod diffinio 

2. Gweithdy Prototeipio: 12 Chwefror, 9.30-4.30pm [WYNEB YN WYNEB], lleoliad i ddilyn. 

  • Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb yma, byddwch yn cael eich arwain drwy weithgareddau i ddylunio prototeip digidol newydd o'ch gwasanaeth. 

  • ​Byddwn yn darparu cinio a lluniaeth. Byddwn yn ad-dalu costau teithio. 

Cyfnod datblygu 

​Bydd gennych chwech wythnos i brofi eich ateb a chasglu canlyniadau. 

​3. Gweminar Olaf: 24 Mawrth, 10 am - 1 pm [AR-LEIN

  • Ar ddiwedd yr chwech wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn gweminar i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy gydol y cwrs a byddwch yn dathlu’r hyn rydych wedi’i gyflawni. 

Tasgau hunan-astudio 

​Rhwng y sesiynau, byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o weithgareddau y gallwch eu cwblhau yn eich amser eich hun. 

​Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs. 

Cyfarfodydd mentora gyda hyfforddwyr 

​Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect. 

🌟  Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma? 

​Mae’r cwrs yma ar gyfer sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.

​Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs, er nad yw'n hanfodol. Mae angen i bob person gofrestru'n unigol. 

🚀 Beth ydy Newid?  

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

💰  Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu? 

​Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid

Am unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â [email protected] os gwelwch yn dda.

Hwyl am y tro!

Hosted By