Cover Image for Baromedr Cymru Findings from Wave 5: Funding and finances | 26.11.26 | Canfyddiadau Baromedr Cymru o Don 5: Cyllid ac arian
Cover Image for Baromedr Cymru Findings from Wave 5: Funding and finances | 26.11.26 | Canfyddiadau Baromedr Cymru o Don 5: Cyllid ac arian

Baromedr Cymru Findings from Wave 5: Funding and finances | 26.11.26 | Canfyddiadau Baromedr Cymru o Don 5: Cyllid ac arian

Zoom
Registration
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

​PLEASE SCROLL FOR ENGLISH

​Ymunwch â ni am weminar sy’n edrych ar yr hyn y mae Ton 5 Baromedr Cymru yn ei ddweud wrthym am gyllid ac iechyd ariannol mudiadau gwirfoddol ledled Cymru.

​Mae Baromedr Cymru yn arolwg dwyieithog, chwarterol a ddatblygwyd gan Arsyllfa VCSE ac CGGC. Mae’n darparu tystiolaeth gadarn, hydredol ar brofiadau a blaenoriaethau mudiadau gwirfoddol ledled Cymru a’r rhagolygon ar gyfer y mudiadau hyn.

​Mae Ton 5 yn canolbwyntio ar gyllid ac arian, a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth sydd wedi newid ers y don flaenorol a oedd yn canolbwyntio ar gyllid. Bryd hynny, adroddodd 45% o’r mudiadau a gymerodd ran sefyllfa ariannol ddirywiol, roedd 56% yn defnyddio’u harian wrth gefn a dywedodd 33% ohonynt nad oedd cyllidwyr yn talu costau llawn eu gwaith. Bydd y weminar hon yn edrych ar beth mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dweud wrthym am y pwysau a’r cynaliadwyedd ariannol ar draws y sector.

​Yn ystod y weminar hon, byddwn yn:

  • ​Cyflwyno’r prif ganfyddiadau o Don 5 ar incwm, cyllid a sefyllfa ariannol mudiadau gwirfoddol.

  • ​Edrych ar y pwysau sy’n wynebu mudiadau, gan gynnwys costau gweithredu uwch, ansicrwydd cyllido a’r galw am wasanaethau.

  • ​Edrych ar sut mae mudiadau yn rheoli eu harian, gan gynnwys defnyddio arian wrth gefn ac i ba raddau mae’r cyllid yn talu’r costau cyflawni llawn.

  • ​Cymharu’r canfyddiadau â’r tonnau cynharach er mwyn ystyried beth sydd wedi newid a pha bwysau sy’n parhau.

  • ​Trafod beth mae’r dystiolaeth yn ei golygu i fudiadau gwirfoddol, cyllidwyr a llunwyr polisïau a dulliau cyllido mwy cynaliadwy.

  • ​Ateb eich cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r tîm ymchwil.

​Waeth a ydych chi’n gweithio yn y sector gwirfoddol, cyllid, llywodraeth, y byd academaidd neu’n syml, â diddordeb mewn tystiolaeth am y sector yng Nghymru, mae’r weminar hon yn gyfle i glywed y mewnwelediadau diweddaraf gan Faromedr Cymru a chymryd rhan yn y drafodaeth.


​Join us for a webinar exploring what Wave 5 of Baromedr Cymru tells us about funding and the financial health of voluntary organisations across Wales.

​Baromedr Cymru is a bilingual, quarterly survey developed by the VCSE Observatory and WCVA, providing robust, longitudinal evidence on the experiences, priorities and outlook of voluntary organisations across Wales.

​Wave 5 focuses on funding and finances, helping us understand what has changed since the previous funding-focused wave. At that point, 45% of participating organisations reported a deteriorating financial position, 56% had used reserves, and 33% said funders did not cover the full costs of their work. This webinar will explore what the latest evidence tells us about financial pressures and sustainability across the sector.

​During this webinar, we will:

  • ​Present key findings from Wave 5 on income, funding and the financial position of voluntary organisations.

  • ​Explore pressures facing organisations, including rising operating costs, funding uncertainty and demand for services.

  • ​Look at how organisations are managing their finances, including the use of reserves and the extent to which funding covers full delivery costs.

  • ​Compare the findings with the earlier waves to consider what has changed and which pressures persist.

  • ​Discuss what the evidence means for voluntary organisations, funders,policymakers and more sustainable approaches to funding.

  • ​Answer your questions during a live Q&A with the research team.

​Whether you work in the voluntary sector, funding, government, academia or simply have an interest in evidence about the sector in Wales, this webinar is an opportunity to hear the latest insights from Baromedr Cymru and take part in the discussion.