Cover Image for WCVA Partners Forum | 23.11.26 | Fforwm Partneriaid CGGC
Cover Image for WCVA Partners Forum | 23.11.26 | Fforwm Partneriaid CGGC
Private Event

WCVA Partners Forum | 23.11.26 | Fforwm Partneriaid CGGC

Virtual
Registration
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

​Please scroll for English

​Casineb a Chamwybodaeth: Sesiwn Ymarferol i Bartneriaid CGGC

​Fel rydyn ni i gyd yn gwybod, gall casineb a chamwybodaeth ledaenu'n gyflym, tanseilio ymddiriedaeth a chael effaith go iawn ar gymunedau ac unigolion. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn helpu partneriaid CGGC i deimlo'n fwy hyderus wrth gydnabod, ymateb i a herio cynnwys niweidiol.

​Bydd y sesiwn yn edrych ar sut mae casineb a chamwybodaeth yn ymddangos ar-lein ac mewn cymunedau, sut i wahaniaethu rhwng camwybodaeth ac iaith casineb, a'r hyn y gall mudiadau ei wneud pan fyddant yn dod ar eu traws.

​Trwy gyngor ymarferol a thrafodaeth, bydd cyfranogwyr yn ystyried beth i edrych amdano, sut i ymateb yn ddiogel ac yn gymesur, pryd i herio, pryd i adrodd, a ble i geisio cymorth pellach.

​Bydd y sesiwn yn rhoi arweiniad ymarferol y gall cyfranogwyr fynd yn ôl i'w mudiadau a'i ddefnyddio yn eu gwaith bob dydd.

​Mae'r sesiwn wedi'i hanelu at unrhyw un sy'n gweithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr neu aelodau o'r cyhoedd sydd eisiau magu hyder i fynd i'r afael â chasineb a chamwybodaeth.


​Hate and Misinformation: A Practical Session for WCVA Partners

​As we are all well aware, hate and misinformation can spread quickly, undermine trust and have a real impact on communities and individuals. This practical session will help WCVA partners feel more confident in recognising, responding to and challenging harmful content.

​The session will explore how hate and misinformation show up online and in communities, how to distinguish between misinformation and hate speech, and what organisations can do when they encounter it.

​Through practical advice and discussion, participants will consider what to look out for, how to respond safely and proportionately, when to challenge, when to report, and where to seek further support.

​The session will provide practical guidance that participants can take back to their organisations and use in their day-to-day work.

​The session is aimed at anyone working with communities, volunteers or the public who wants to build confidence in tackling hate and misinformation.