

Volunteers’ Week 2026 in Wales - Knowledge bites | 03.06.26 | Wythnos Gwirfoddolwyr 2026 yng Nghymru- Gweminar gwybodaeth
Cynhelir gan Ganolfannau Gwirfoddoli yng Nghymru a CGGC
Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2026, rydym yn gwahodd sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ledled Cymru i ymuno â’r weinar Gweminar Gwybodaeth 90 munud hon. Mae’r sesiwn hon yn gyfle i wrando ar ddysgu gan eraill, clywed lleisiau a phrofiadau byw, a chasglu syniadau ymarferol i gryfhau’r ffordd rydych yn croesawu, yn cynnwys ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.
Mae’r digwyddiad yn arbennig o berthnasol i sefydliadau sy’n gweithio gyda, neu sy’n dymuno gwella eu hymagwedd at gynnwys, gwirfoddolwyr sy’n niwroamrywiol, sydd ag anabledd dysgu, neu sydd ag anghenion cymorth penodol. Nid sesiwn hyfforddiant yw hon, ond bydd yn rhannu awgrymiadau defnyddiol, enghreifftiau ac arsylwadau o brosiectau a gwaith ymarferol go iawn ar draws Cymru.
Bydd cyfraniadau byr gan siaradwyr â phrofiad ac arbenigedd mewn gwirfoddoli cynhwysol, gan gynnwys dysgu a gasglwyd yn uniongyrchol gan bobl ag anableddau dysgu, enghreifftiau ymarferol o brosiect cymorth gwirfoddolwyr wedi’i deilwra, a chyngor ar gefnogi gwirfoddolwyr awtistig a niwroamrywiol. Gyda’i gilydd, mae’r gweminarau gwybodaeth hyn yn tynnu sylw at addasiadau bach ond ystyrlon sy’n gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyniadau, gyda chyfle ar y diwedd ar gyfer cwestiynau a rhannu myfyrdodau. Bydd cydweithwyr o Ganolfannau Gwirfoddoli lleol ar gael i gefnogi’r drafodaeth a rhannu adnoddau pellach.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
Adnabod rhwystrau cyffredin y gall gwirfoddolwyr eu hwynebu
Teimlo’n fwy hyderus wrth gael sgyrsiau cefnogol a phriodol gyda gwirfoddolwyr am eu hanghenion
Gwybod ble i gael rhagor o ganllawiau, offer a chymorth lleol
Boed eich bod yn recriwtio yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr neu’n myfyrio ar eich arfer presennol, mae’r weminar hon yn cynnig lle i ddysgu, gwrando ac ysbrydoli.
Byddwch yn clywed cyfraniadau byr gan siaradwyr sydd ag arbenigedd a phrofiad mewn gwirfoddoli cynhwysol, gan gynnwys mewnwelediadau a gasglwyd yn uniongyrchol gan bobl ag anableddau dysgu, ac enghreifftiau ymarferol gan sefydliadau.
Hosted by Volunteer Centres in Wales and WCVA
As part of Volunteers’ Week 2026, we invite volunteer involving organisations across Wales to join this 90 minute Knowledge Bites webinar. This session offers an opportunity to listen to the learning of others, hear lived experiences, and take away practical ideas to strengthen how you welcome, include and support volunteers.
This event is especially relevant for organisations working with, or seeking to better include, volunteers who are neurodivergent, have a learning disability, or have specific support requirements. While this is not a training session, it will share useful tips, examples and reflections support project, and advice on supporting autistic and neurodivergent volunteers. Together, these knowledge bites highlight small but meaningful adjustments that can make a significant difference.
The session will be largely presentation based, with time at the end for questions and shared reflections. Colleagues from local Volunteer Centres will be available to support the discussion and share further resources.
By the end of the session, participants will:
Better understand common barriers volunteers may experience
Feel more confident making simple, practical adjustments
Know where to access further guidance, training and local support drawn from real projects and practice across Wales.
You’ll hear short contributions from speakers with expertise and experience in inclusive volunteering, including insights gathered directly from people with learning disabilities, practical examples from organisations.
Whether you are recruiting during Volunteers’ Week or reflecting on your current practice, this webinar offers space to learn, listen and be inspired.