Cover Image for Gambling Harms Voluntary Sector Grant Fund | 12.08.26 | Cronfa Grant Niwed Gamblo’r Sector Gwirfoddol
Cover Image for Gambling Harms Voluntary Sector Grant Fund | 12.08.26 | Cronfa Grant Niwed Gamblo’r Sector Gwirfoddol
Private Event

Gambling Harms Voluntary Sector Grant Fund | 12.08.26 | Cronfa Grant Niwed Gamblo’r Sector Gwirfoddol

Virtual
Registration
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

SCROLL FOR ENGLISH

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Cronfa Grant Niwed Gamblo’r Sector Gwirfoddol. Wedi'i gweinyddu gan CGGC, bydd y gronfa yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i ddatblygu a chyflwyno dulliau gweithredu arloesol, a arweinir gan y gymuned o atal niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Nod y gronfa yw cryfhau capasiti Cymru i atal niwed sy'n gysylltiedig â gamblo drwy gefnogi prosiectau sy’n:

  • Datblygu a phrofi dulliau atal effeithiol

  • Mynd i'r afael â sbardunau sydd wrth wraidd niwed sy'n gysylltiedig â gamblo

  • Cryfhau gallu cymunedau, gwasanaethau a mudiadau i atal niwed sy'n gysylltiedig â gamblo

  • Llunio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal yng Nghymru

  • Ymwreiddio egwyddorion iechyd y cyhoedd ar bob cam o gyflawni’r prosiect

  • Mynd ati’n ystyrlon i ystyried profiad bywyd wrth ddylunio, cyflwyno neu lywodraethu

Ymunwch â'r sesiwn wybodaeth hon i ddysgu mwy am:

  • Nodau a blaenoriaethau'r gronfa

  • Pwy sy’n gallu gwneud cais a pha weithgareddau gellir eu cyllido

  • Y broses ymgeisio a'r meini prawf asesu

  • Y cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr

  • Atebion i'ch cwestiynau gan dîm y gronfa

Mae'r sesiwn hon wedi'i dylunio ar gyfer mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, elusennau a mentrau cymdeithasol â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid a chyfrannu at atal niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru.

Cofrestrwch i fynychu a darganfod sut gallai eich mudiad helpu i adeiladu cymunedau iachach a mwy gwydn ledled Cymru.


Public Health Wales has launched the Gambling Harms Voluntary Sector Grant Fund , administered by WCVA, to support voluntary organisations across Wales to develop and deliver innovative, community-led approaches to preventing gambling-related harms.

The fund aims to strengthen Wales' capacity to prevent gambling-related harms by supporting projects that:

  • Develop and test effective prevention approaches

  • Address the underlying drivers of gambling-related harms

  • Strengthen community, sector and system capacity

  • Build the evidence base for prevention in Wales

  • Embed lived experience and public health principles throughout project delivery

Join this information session to learn more about:

  • The aims and priorities of the fund

  • Who can apply and what activities can be funded

  • The application process and assessment criteria

  • Available support for applicants

  • Answers to your questions from the fund team

This session is designed for voluntary organisations, community groups, charities and social enterprises interested in applying for funding and contributing to the prevention of gambling-related harms in Wales.

Register to attend and find out how your organisation could help build healthier, more resilient communities across Wales.