

Voluntary sector hustings: Senedd 2026 | Hustyngau’r sector gwirfoddol: Senedd 2026
Please scroll for English
Etholiadau 2006 y Senedd fydd un o’r etholiadau mwyaf cystadleuol ac anrhagweladwy ers i ddatganoli ddechrau. Mae ehangiad y Senedd, ynghyd â system etholiadol newydd a newidiadau gwleidyddol digynsail yn awgrymu newid mawr yng nghyfansoddiad y Senedd nesaf.
Bydd y digwyddiad hwn yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o bleidiau gwleidyddol gwahanol ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau am bolisïau eu plaid o ran y sector gwirfoddol.
Bydd yr hustyngau ar ffurf sesiwn Holi ac Ateb a bydd yn:
Canolbwyntio ar bolisïau pleidiau gwahanol a’u gweledigaeth am ddyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru
Amlygu blaenoriaethau a heriau’r sector gwirfoddol ar gyfer y Llywodraeth Cymru nesaf
Cael ei chadeirio’n annibynnol gan un o newyddiadurwyr blaenllaw Cymru
Cynnwys detholiad o’ch cwestiynau, wedi’u casglu gan CGGC
Sian Lloyd fydd yn cyflwyno'r sesiwn, ynghyd â’r cynrychiolwyr isod;
Sian Lloyd LLB, cyflwynydd a hwylusydd annibynnol (cadeirydd)
Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar, ac ymgeisydd Brycheiniog Tawe Nedd
Llŷr Powell, llefarydd Reform UK
Anthony Slaughter, Arweinydd Plaid Werdd Cymru, ac ymgeisydd Caerdydd Penarth
I'w cadarnhau, Arweinydd Grŵp y Senedd Plaid Geidwadol Cymru, ac ymgeisydd Clwyd
Shavanah Taj, Llafur Cymru, Caerdydd Ffynnon Taf ymgeisydd
David Seale, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ymgeisydd Pontypridd Cynon Merthyr
Nod y digwyddiad hwn yw sicrhau bod y cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan elusennau, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn cael eu hateb cyn etholiad y Senedd. Anfonwch eich cwestiynau i [email protected] cyn 9 Mawrth 2026.
The 2026 Senedd election will be one of the most hotly contested and unpredictable elections since devolution began. The expansion of the Senedd, coupled with a new electoral system, and unprecedented political shifts suggest a big change in the make-up of the next Senedd.
This event will bring together representatives from different political parties and give you an opportunity to ask questions about their party’s policies concerning the voluntary sector.
The hustings will take the form of a Questions & Answers (Q&A) session and it will:
Focus on different parties’ policies and vision for the future of the voluntary sector in Wales
Highlight voluntary sector priorities and challenges for the next Welsh Government
Be independently chaired by a leading Welsh journalist
Feature a selection of your questions, compiled by WCVA
The session will be hosted by Sian Lloyd, joined by the representatives below;
Sioned Williams MS, Plaid Cymru spokesperson for Social Justice and Early Years, and Brycheiniog Tawe Nedd candidate
Llŷr Powell, Reform UK spokesperson
Anthony Slaughter, Wales Green Party Leader, and Caerdydd Penarth candidate
To be confirmed, Welsh Conservative Party Senedd Group Leader, and Clwyd candidate
Shavanah Taj, Welsh Labour, Caerdydd Ffynnon Taf candidate
David Seale, Welsh Liberal Democrats, Pontypridd Cynon Merthyr candidate
This event aims to ensure that the most common questions asked by charities, community groups and voluntary organisations are answered ahead of the Senedd election. Please submit your questions to [email protected] before 9 March 2026.