

Public engagement: theory and practice | 3, 4 & 24.11.26 | Ennyn diddordeb y cyhoedd: damcaniaeth ac ymarfer
Ddim yn siŵr a ydych chi'n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
Unsure if you are a WCVA Voluntary Sector Partner? Please check here.
Ar gyfer cyrsiau hyfforddi aml-ddyddiad, archebwch a thalwch am Ddiwrnod 1 yn unig. Mae'r taliad hwn yn cynnwys pob dyddiad, a byddwn yn eich ychwanegu â llaw at y sesiynau sy'n weddill.
For multi-date training courses, please book and pay for Day 1 only. This payment covers all course dates, and we will manually add you to the remaining sessions.
SCROLL FOR ENGLISH
Amcanion
Wedi’i achredu gan Agored Cymru
I roi mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymgysylltu cyfranogol.
Cynnwys
Mae’r trydydd sector bob amser yn ceisio cysylltu â chynulleidfaoedd newydd fel y gallwn ni eu cynnwys yn ein sgyrsiau. Nod y cwrs tri diwrnod cynhwysfawr hwn yw rhoi mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymgysylltu cyfranogol. Byddwch chi’n ennill amrediad o sgiliau ac yn magu hyder i ymgysylltu â dinasyddion a’r gymuned. Diwrnodau addysgu fydd diwrnod un a dau a fydd yn cynnwys cyflwyno’r wybodaeth, trafodaethau grŵp ac ymarferion rhyngweithiol. Diwrnod asesu fydd diwrnod tri a fydd yn ffurfio rhan o’r broses achredu.
Bydd Diwrnod Un yn canolbwyntio ar ddeall a chynllunio proses ymgysylltu.
Yn ystod y bore, byddwn yn ystyried y cyd-destun unigryw ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru ac yn edrych ar rai modelau ymgysylltu damcaniaethol.
Bydd y prynhawn yn ymwneud â defnyddio techneg dadansoddi rhanddeiliaid, a matrics cynllunio proses ymgysylltu, a byddwn yn edrych ar ffyrdd o ymgysylltu â grwpiau nas clywir yn aml.
Bydd Diwrnod Dau yn canolbwyntio ar dechnegau ymgysylltu, gan ddadansoddi’r wybodaeth a gynhyrchir drwy ymgysylltu a’r hyn sy’n digwydd ar ôl y broses ymgysylltu.
Yn ystod y bore, byddwn yn dysgu am y Technegau Cyfranogol a ddefnyddir mewn Arfarniad Cyflym Cyfranogol (PRA) ac yn ymarfer defnyddio rhai adnoddau allweddol.
Yn y prynhawn, byddwn yn edrych ar sut i sicrhau bod eich canfyddiadau’n ddilys ac yn sefydlu rhai egwyddorion craidd ar gyfer dadansoddi data ansoddol o broses ymgynghori. Byddwn yn cloi’r diwrnod drwy ystyried yr egwyddorion a’r dulliau ar gyfer rhoi adborth i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y broses ymgysylltu, a sut i werthuso’r ymgysylltu.
Ar Ddiwrnod Tri, byddwch yn dangos techneg gyfranogol fel rhan o’ch asesiad ac yn dadansoddi data ansoddol mewn modd strwythuredig. Ar ôl yr hyfforddiant, bydd angen i gyfranogwyr sydd eisiau achrediad hefyd gyflwyno llyfr gwaith i’w asesu.
Canlyniadau dysgu
Trwy fynychu’r cwrs, byddwch yn:
Deall diben ymgysylltu yng Nghymru heddiw
Deall rhai modelau ymgysylltu damcaniaethol
Gallu adnabod rhanddeiliaid a sut i ymgysylltu â nhw, gan gynnwys grwpiau nas clywir yn aml
Gallu defnyddio amrediad o adnoddau ar gyfer ymgysylltu
Deall dulliau cyfathrebu effeithiol drwy gydol y broses ymgysylltu
Gallu dadansoddi data ansoddol a deall sut i sicrhau bod eich canfyddiadau’n ddilys
Deall pwysigrwydd rhoi adborth
https://wcva.cymru/cy/training-events/ennyn-diddordeb-y-cyhoedd-damcaniaeth-ac-ymarfer/
Aims
Accredited by Agored Cymru
To provide greater awareness and understanding of participative engagement.
Content
The third sector is always striving to connect with new audiences so that we can include them in our conversations. This comprehensive three-day course is aimed at providing a greater awareness and understanding of participative engagement. You’ll gain a range of skills as well as build your confidence in engaging with citizens and the community. Days one and two are teaching days which will include, presentation of information, group discussions and interactive exercises. Day three is an assessment day which forms part of the accreditation process.
Day One focuses on understanding and planning engagement.
During the morning we will consider the unique context for public engagement in Wales, and review some theoretical models of engagement.
The afternoon will involve using a stakeholder analysis technique, and an engagement planning matrix and we will explore ways of engaging with seldom-heard groups.
Day two focuses on engagement techniques, analysing information generated by engagement and what happens after the engagement process.
During the morning we will learn about Participatory Techniques drawn from Participatory Rapid Appraisal (PRA) and practice using some key tools.
During the afternoon we will look at how to make sure your findings are valid and establish some core principles for analysing qualitative data from a consultation process. The day ends by considering principles and mechanisms for providing feedback to those who take part in the engagement process, and how to evaluate engagement.
On day three, you will demonstrate a participatory technique as part of your assessment, and analyse qualitative data in a structured way. Following the training, participants seeking accreditation will also be required to submit a workbook for assessment.
Learning outcomes
By attending the course you will:
Understand the purpose of engagement in today’s Wales
Understand some theoretical models of engagement
Be able to identify stakeholders and how to engage with them, including seldom-heard groups
Be able to use a range of tools for engagement
Understand effective methods for communication throughout the engagement process
Be able to analyse qualitative data and understand how to make sure your findings are valid.
Understand the importance of providing feedback
https://wcva.cymru/training-events/public-engagement-theory-and-practice/