

Dylunio Gwasanaethau Digidol gyda Phobl: Sesiynau Digidol Newid
Ymunwch â ni ar yr 2il o Ragfyr ar gyfer y Sesiwn Ddigidol Newid nesaf, yn ymwneud â gwneud i wasanaethau digidol weithio i bobl.
📝 Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl
Gwrandewch ar sut y gwnaeth Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu, elusen sy’n hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru, ddefnyddio Dylunio Gwasanaeth i wneud i'w systemau digidol weithio’n well ar gyfer staff a’r bobl maent yn eu cefnogi.
Bydd Leanne yn rhannu beth arweiniodd at y newid, sut y gwnaethant brofi syniadau gyda defnyddwyr go iawn, a gwersi allweddol ynghylch hygyrchedd a chynhwysiant.
Byddwch hefyd yn dysgu sut mae dechrau ar raddfa fach, profi syniadau a dylunio gyda phobl, nid ar eu cyfer, yn arwain at wasanaethau digidol gwell.
🧰 Yr hyn a gewch o’r sesiwn
Cyflwyniad i ddylunio gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
Dylunio gwasanaeth ar waith yn Cyswllt Conwy
Sesiwn holi ac ateb lle cewch ofyn cwestiynau a rhannu eich profiad eich hun
Ystafelloedd neilltuol opsiynol ar gyfer rhwydweithio a thrafodaeth â chyfoedion
👥 Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon?
Elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru
Cwmniau Buddiant Cymunedol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol
Unrhyw un sy’n gyfrifol am agweddau digidol, darparu gwasanaeth, cyfathrebu neu weithrediadau
Pobl sydd ond newydd dechrau gydag agweddau digidol, a rhai sydd eisoes ar eu taith
P'un a ydych chi newydd gychwyn neu'n edrych i wella gwasanaethau presennol, byddwch chi'n cael mewnwelediadau ymarferol i'w rhoi ar waith yn eich sefydliad.
📢 Sesiynau Digidol Newid
Mae’r sesiwn hon yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau newydd a elwir yn ‘Sesiynau Digidol Newid’ a luniwyd ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru er mwyn rhannu pethau a ddysgwyd a chynnal trafodaethau gonest. I gael rhagor o wybodaeth am y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Newid.
🚀 Beth ydy Newid?
Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
📬 Cadw ar flaen y newydd
Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid.