Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr: AI ar gyfer y Trydydd Sector
Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr: AI ar gyfer y Trydydd Sector
Hosted By
Private Event

AI ar gyfer Arweinwyr: AI ar gyfer y Trydydd Sector

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Approval Required
Your registration is subject to approval by the host.
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

Gyda’r cynnydd cyflym ym maes Deallusrwydd Artiffisial a chyflymder ei ddatblygiad, gall fod yn heriol i sefydliadau gadw fyny gyda hyn.

Yn y modiwl hwn, bydd ProMo Cymru yn eich arwain chi drwy gymwysiadau ymarferol AI ar gyfer eich sefydliad a rhannu astudiaethau achos o’r trydydd sector.  

Mae’r modiwl hwn wedi’i fwriadu ar gyfer arweinwyr er mwyn eich helpu i ddeall sut y gall AI gefnogi eich gwaith.

Drwy’r modiwl ymarferol lle cewch brofiad eich hun o wneud pethau byddwn yn cwmpasu:

  • Cefndir AI: Beth ydyw a sut mae’n gweithio 

  • Adnodd AI i ddechreuwyr megis ChatGPT ac Otter.ai 

  • Adnoddau AI uwch, megis NotebookLM, Claude a Firebase Studio  

  • Enghreifftiau o AI yn y trydydd sector 

  • Dyfodol AI: Pa rôl allai AI ei chwarae yn nyfodol eich sefydliad?  

Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer: 

  • Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r Bwrdd sydd eisiau deall y cyfleoedd y mae AI yn eu darparu yn well. 

  • Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu staff Trydydd Sector arall sydd, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan yn llywio cyfeiriad digidol

Gwybodaeth bwysig 

  • Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma. 

  • Un lle am bob sefydliad: Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad. 

  • Y broses ddethol: Rydym yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru felly byddem yn mynd drwy broses o ddewis.

  • Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

  • Dyddiad cau

    • Modiwl 1: 20fed Hydref 2025 

    • Modiwl 2: 17eg Tachwedd 2025 

    • (Mae’n bosib y byddwn yn cau cofrestriad yn gynt os ydym yn cyrraedd ein capasiti.) 

Ydych chi eisiau dysgu am bolisi, llywodraethiant a strategaeth AI? 

Rydym yn cynnig ail fodiwl ynghylch sut y gall elusennau fabwysiadau AI mewn ffordd sy’n cefnogi staff, sy’n alinio gyda gwerthoedd, ac sy’n cryfhau eu cenhadaeth. 

Cofrestrwch

Beth ydy Newid? 

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

See more of our work on our website.

Cadw ar flaen y newydd  

Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid

Hosted By