

Baromedr Cymru – focus on volunteering | 26.03.2026 | Baromedr Cymru – canolbwyntio ar wirfoddoli
PLEASE SCROLL FOR ENGLISH
Mae chwech o bob deg mudiad sy’n ymateb i don ddiweddaraf Baromedr Cymru yn dweud nad oes ganddynt ddigon o wirfoddolwyr i fodloni eu hamcanion. Noda bron hanner ohonynt fod gwirfoddolwyr yn cyfrannu mwy nag o’r blaen, ac eto, mae bron chwech o bob deg mudiad yn dweud eu bod yn cael anhawster eu recriwtio.
Baromedr Cymru yw arolwg chwarterol, dwyieithog cyntaf sector gwirfoddol Cymru. Gwahoddwn ni chi i ymuno â seminar ar-lein arbennig ar 26 Mawrth i glywed y canfyddiadau diweddaraf a thrafod beth mae’r rhain yn ei olygu i’r sector.
Yn y sesiwn hon, a gyflwynir gan CGGC mewn cydweithrediad ag Arsyllfa VCSE Nottingham Trent University, byddwch yn cael:
Cyflwyniad clir o’r prif themâu sy’n ymddangos o ddwy don data gyntaf Baromedr Cymru — o staffio a phwysau ar wirfoddolwyr, galw am wasanaethau, i iechyd ariannol a hyder yn y dyfodol.
Mewnwelediad i sut gallai eich mudiad fod yn cymharu â rhai eraill ledled Cymru a’r DU — gan roi cyd-destun, meincnodi a thystiolaeth i chi y gallwch chi eu defnyddio wrth gynllunio neu wneud ceisiadau am gyllid.
Sesiwn holi ac ateb byw lle gallwch edrych ar beth mae’r canfyddiadau hyn yn ei olygu i’ch mudiad chi — a sut gallech ddefnyddio’r data sector gyfan hwn i lywio’ch camau nesaf.
Six in ten organisations responding to the latest wave of Baromedr Cymru say they do not have enough volunteers to meet their objectives. Nearly half report that volunteers are contributing more than before, yet almost six in ten organisations say they are struggling to recruit them.
Baromedr Cymru is the first bilingual, quarterly survey of Wales’ voluntary sector. We invite you to join a special online seminar on 26 March to hear the latest findings and discuss what they mean for the sector.
In this session, delivered by WCVA in collaboration with VCSE Observatory at Nottingham Trent University, you’ll get:
A clear presentation of the key themes emerging from Baromedr Cymru’s first two waves of data — from staffing and volunteer pressures, demand for services, to financial health and confidence in the future.
Insight into how your organisation might compare with others across Wales and the UK— giving you context, benchmarking, and evidence you can use in planning or funding applications.
A live Q&A session where you can explore what the findings mean for your organisation — and how you might use this fresh, sector-wide data to guide.