Cover Image for Myth Busting Safeguarding, DBS and Charity Commission | Chwalu Chwedlau Diogelu, y DBS a'r Comisiwn Elusennau
Cover Image for Myth Busting Safeguarding, DBS and Charity Commission | Chwalu Chwedlau Diogelu, y DBS a'r Comisiwn Elusennau
Private Event

Myth Busting Safeguarding, DBS and Charity Commission | Chwalu Chwedlau Diogelu, y DBS a'r Comisiwn Elusennau

Virtual
Registration
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

SCROLL FOR ENGLISH

Chwalu’r mythau! Yr atebion i’ch cwestiynau ar ddiogelu, DBS a’r Comisiwn Elusennau

Camsyniad cyffredin yw bod gwiriadau diogelu a gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yr un peth. Mewn gwirionedd, dim ond un elfen o ddyletswyddau diogelu ehangach elusen yw gwiriad DBS, ac nid oes angen gwiriad DBS yn awtomatig ar gyfer pob rôl. Mae’r Comisiwn Elusennau yn gyfrifol am sicrhau bod elusennau yn cadw at eu cyfrifoldebau diogelu, ond nid yw’n awdurdod diogelu yn ei hun. 

Ymunwch â ni am y sesiwn chwalu’r mythau hon lle byddwch yn clywed gan dri gweithiwr diogelu proffesiynol a fydd yn eich helpu i ddidoli’r gwir o’r gau.  

Yn y weminar hon, byddwch yn clywed gan Suzanne Mollison, Rheolwr Diogelu CGGC, a fydd yn canolbwyntio ar y camddealltwriaethau diogelu cyffredin rydyn ni’n eu clywed gan y sector gwirfoddol yng Nghymru. Byddwch yn barod am rai atebion gonest!  

Byddwn hefyd yn clywed gan Owain Rowlands, Swyddog Allgymorth Cymru yn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a fydd yn rhoi sylw i gamsyniadau cyffredin ynghylch cymhwysedd i gael gwiriad DBS – waeth a ydych chi’n newydd i DBS neu eisiau hogi eich dealltwriaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi eglurder, yn annog trafodaeth agored ac yn eich grymuso â gwybodaeth gywir. 

I orffen, bydd Sarah Lockett, Swyddog Ymgysylltu ag Elusennau’r Comisiwn Elusennau yn edrych ar beth yw cylch gwaith rheoleiddio’r Comisiwn o ran diogelu, y pedwar prif ddisgwyliad diogelu gan ymddiriedolwyr elusennau a pham mae adrodd digwyddiadau difrifol i’r Comisiwn Elusennau yn rhan hanfodol bwysig o gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd a’u hyder yn y sector elusennau. 

Ar ôl y tri chyflwyniad byr hyn, bydd pob siaradwr yn symud i ystafell drafod am hyd at 30 munud. Gallwch alw i mewn i un o’r ystafelloedd hyn, neu bob un ohonynt, i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. 


Myth Busted! Your questions answered on safeguarding, DBS, and the Charity Commission

It is a common myth that safeguarding and Disclosure and Barring Service (DBS) checks are the same thing. In reality, a DBS check is only one element of a charity's wider safeguarding duties, and getting a DBS check is not automatically required for every role. The Charity Commission is responsible for ensuring that charities meet their safeguarding responsibilities but is not a safeguarding authority itself. 

Join us for this myth busting session where you will hear from 3 safeguarding professionals who will help you to sort fact from fiction.  

In this webinar you will hear from Suzanne Mollison, Safeguarding Manager at WCVA, who will be focusing on the common safeguarding misunderstandings that we hear from the voluntary sector in Wales. Prepare for some straight answers!  

We will also hear from Owain Rowlands, Outreach Officer for Wales at Disclosure and Barring Service where he will tackle common misconceptions around DBS check eligibility - Whether you're new to DBS or just want to sharpen your understanding, this session will provide clarity, encourage open discussion, and empower you with accurate information. 

To conclude Sarah Lockett, Charities Engagement Officer at Charity Commission will cover what the Commission's regulatory remit is when it comes to safeguarding, the four key safeguarding expectations of charity trustees and why reporting serious incidents to the Charity Commission is a crucial part of maintaining public trust and confidence in the charity sector. 

After these 3 short presentations, all the speakers will each move to a break-out room for up to 30 minutes. You can pop into any, or all, of these rooms to ask any questions you have.