Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth
Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth
Hosted By

AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Past Event
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

​Gyda’r cynnydd cyflym ym maes Deallusrwydd Artiffisial a chyflymder ei ddatblygiad, gall fod yn heriol i sefydliadau gadw fyny gyda hyn.

​Yn y modiwl hwn, bydd ProMo Cymru yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer mewnosod Deallusrwydd Artiffisial ar draws eich sefydliad. 

​Byddwn yn ystyried strategaethau ar gyfer cefnogi eich staff, gan ddelio gydag ystyriaethau moesegol gyda hyder, ysgrifennu polisïau defnydd priodol, a chyfathrebu eich gweledigaeth ar gyfer mabwysiadu AI yn gyfrifol 

​P’un a ydych chi yn y camau cyntaf o archwilio AI neu ddatblygu strategaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi mewnwelediadau ymarferol i chi er mwyn arwain eich sefydliad ymlaen i’r dyfodol gyda Deallusrwydd Artiffisial.

​

​Drwy’r modiwl hwn, byddwn yn cwmpasu 

  • ​Sut i ysgrifennu polisïau defnyddio AI eglur ac ymarferol 

  • ​Ffyrdd o gefnogi eich staff ac adeiladu hyder gydag AI yn fewnol 

  • ​Dulliau o reoli ystyriaethau moesegol a risgiau 

  • ​Sut i gyfathrebu gweledigaeth eich sefydliad ar gyfer AI cyfrifol strategaethau i sicrhau bod mabwysiadu AI yn cryfhau eich cenhadaeth a’ch gwerthoedd   

​

​Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer: 

  • ​Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r Bwrdd sydd eisiau deall y cyfleoedd y mae AI yn eu darparu yn well. 

  • ​Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu staff Trydydd Sector arall sydd, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan yn llywio cyfeiriad digidol

​

​Gwybodaeth bwysig 

  • ​Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma. 

  • ​Un lle am bob sefydliad: Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad. 

  • ​Y broses ddethol: Rydym yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru felly byddem yn mynd drwy broses o ddewis.

  • ​Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

  • ​Dyddiad cau: 

    • ​Modiwl 1: 28 Ionawr 2026 

    • ​Modiwl 2: 4 Chwefror 2026 

    • ​(Mae’n bosib y byddwn yn cau cofrestriad yn gynt os ydym yn cyrraedd ein capasiti.) 

​

​Beth ydy Newid? 

​​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

​​Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar ein gwefan.

​

​Cadw ar flaen y newydd  

​Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid. 

Hosted By