Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr y Trydydd Sector
Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr y Trydydd Sector
Hosted By

AI ar gyfer Arweinwyr y Trydydd Sector

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Past Event
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

​Gyda’r cynnydd cyflym ym maes Deallusrwydd Artiffisial a chyflymder ei ddatblygiad, gall fod yn heriol i sefydliadau gadw fyny gyda hyn.

​Yn y modiwl hwn, bydd ProMo Cymru yn eich arwain chi drwy gymwysiadau ymarferol AI ar gyfer eich sefydliad a rhannu astudiaethau achos o’r trydydd sector.

​Mae’r modiwl hwn wedi’i fwriadu ar gyfer arweinwyr er mwyn eich helpu i ddeall sut y gall AI gefnogi eich gwaith.

​

​Drwy’r modiwl ymarferol lle cewch brofiad eich hun o wneud pethau byddwn yn cwmpasu:

  • ​Cefndir AI: Beth ydyw a sut mae’n gweithio

  • ​Adnodd AI i ddechreuwyr megis ChatGPT ac Otter.ai

  • ​Adnoddau AI uwch, megis NotebookLM, Claude a Firebase Studio

  • ​Enghreifftiau o AI yn y trydydd sector

  • ​Dyfodol AI: Pa rôl allai AI ei chwarae yn nyfodol eich sefydliad?

​

​Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer: 

  • ​Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r Bwrdd sydd eisiau deall y cyfleoedd y mae AI yn eu darparu yn well.

  • ​Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu staff Trydydd Sector arall sydd, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan yn llywio cyfeiriad digidol

​

​Gwybodaeth bwysig 

  • ​Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma.

  • ​Un lle am bob sefydliad: Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad.

  • ​Y broses ddethol: Rydym yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru felly byddem yn mynd drwy broses o ddewis.

  • ​Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

​

​Ydych chi eisiau dysgu am bolisi, llywodraethiant a strategaeth AI? 

​Rydym yn cynnig ail fodiwl ynghylch sut y gall elusennau fabwysiadau AI mewn ffordd sy’n cefnogi staff, sy’n alinio gyda gwerthoedd, ac sy’n cryfhau eu cenhadaeth.

​Cofrestrwch

​

​Beth ydy Newid? 

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

​Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar

​

​Cadw ar flaen y newydd  

​Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid.

Hosted By