

Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol
Gwneud i'ch gwasanaethau weithio'n well yn ddigidol!
Mae gennym gyfle cyffrous i sefydliadau trydydd sector Cymru ymuno â ni ar her ddylunio.
Bydd ein cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol am ddim yn rhoi'r sgiliau ymarferol a'r hyder i chi archwilio sut gall digidol wella'r ffordd y mae eich sefydliad yn gweithio - p'un ai yw hynny'n gwneud eich gwasanaethau yn haws i bobl gael mynediad atynt, yn gwella profiadau ar gyfer y bobl yr ydych yn eu cefnogi, neu'n symleiddio prosesau dydd i ddydd eich tîm.
Dros 10 wythnos, byddwch yn cael eich arwain drwy'r dull Darganfod, Diffinio, Datblygu, gan ddysgu sut i ddeall anghenion pobl, profi syniadau'n fuan a datblygu datrysiad ymarferol i her wirioneddol yn eich sefydliad.
Lluniwyd y cwrs ymarferol hwn yn benodol ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, gydag arweiniad arbenigol, cefnogaeth mentor a gweithgareddau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith.
🧑🏫 Deilliannau dysgu
Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn:
Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu
Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio
Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol
Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth
Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
Cael mynediad at adnoddau
Y cymhwysedd i wneud cais ar gyfer y rownd nesaf o'r Cynllun Grantiau Bach yn Hydref 2026.
Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs (er nad yw'n hanfodol). Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.
📢 Mae mynychwyr cynt wedi dweud
"Rwyf wastad yn gwella bob rhan o'm diwrnod gwaith wrth feddwl sut gallaf roi'r hyn a ddysgais ar waith."
"Mae hud yn yr ystafell yma"
"Mae'r agwedd sgrialfwrdd o bethau ddim yn gorfod bod yn berffaith yn syth wedi gwir newid fy meddylfryd yn broffesiynol ac yn bersonol."
"Mae angen i bob sefydliad trydydd sector wneud hyn"
📅 Strwythur y cwrs
Dros yr 10 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr.
Cyfnod Darganfod
1. Gweminar Cyflwyno: 23 Medi 10 am - 1 pm [AR-LEIN].
Bydd y cwrs yn dechrau gyda gweminar hanner diwrnod lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg dylunio gwasanaeth, sut beth yw'r broses, a sut i ddeall anghenion defnyddwyr yn well.
Yna bydd gennych bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ble y gallech fod yn arbed amser.
Cyfnod diffinio
2. Gweithdy Prototeipio: 28 Hydref, 9.30-4.30pm [WYNEB YN WYNEB], lleoliad i ddilyn.
Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb yma, byddwch yn cael eich arwain drwy weithgareddau i ddylunio prototeip digidol newydd o'ch gwasanaeth.
Byddwn yn darparu cinio a lluniaeth. Byddwn yn ad-dalu costau teithio.
Cyfnod datblygu
Bydd gennych chwech wythnos i brofi eich ateb a chasglu canlyniadau.
3. Gweminar Olaf: 8 Rhagfyr, 10 am - 1 pm [AR-LEIN]
Ar ddiwedd yr chwech wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn gweminar i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy gydol y cwrs a byddwch yn dathlu’r hyn rydych wedi’i gyflawni.
Tasgau hunan-astudio
Rhwng y sesiynau, byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o weithgareddau y gallwch eu cwblhau yn eich amser eich hun.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs.
Cyfarfodydd mentora gyda hyfforddwyr
Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect.
💡 Gwybodaeth bwysig
Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma.
Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.
🌟 Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Mae’r cwrs yma ar gyfer sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs, er nad yw'n hanfodol. Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.
🚀 Beth ydy Newid?
Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
💰 Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu?
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid.
Am unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â megan@promo.cymru os gwelwch yn dda.
Hwyl am y tro!