Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth
Cover Image for AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth
Hosted By
Private Event

AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Approval Required
Your registration is subject to approval by the host.
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

Gyda’r cynnydd cyflym ym maes Deallusrwydd Artiffisial a chyflymder ei ddatblygiad, gall fod yn heriol i sefydliadau gadw fyny gyda hyn.

Yn y modiwl hwn, bydd ProMo Cymru yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer mewnosod Deallusrwydd Artiffisial ar draws eich sefydliad. 

Byddwn yn ystyried strategaethau ar gyfer cefnogi eich staff, gan ddelio gydag ystyriaethau moesegol gyda hyder, ysgrifennu polisïau defnydd priodol, a chyfathrebu eich gweledigaeth ar gyfer mabwysiadu AI yn gyfrifol 

P’un a ydych chi yn y camau cyntaf o archwilio AI neu ddatblygu strategaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi mewnwelediadau ymarferol i chi er mwyn arwain eich sefydliad ymlaen i’r dyfodol gyda Deallusrwydd Artiffisial.

Drwy’r modiwl hwn, byddwn yn cwmpasu 

  • Sut i ysgrifennu polisïau defnyddio AI eglur ac ymarferol 

  • Ffyrdd o gefnogi eich staff ac adeiladu hyder gydag AI yn fewnol 

  • Dulliau o reoli ystyriaethau moesegol a risgiau 

  • Sut i gyfathrebu gweledigaeth eich sefydliad ar gyfer AI cyfrifol strategaethau i sicrhau bod mabwysiadu AI yn cryfhau eich cenhadaeth a’ch gwerthoedd   

Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer: 

  • Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r Bwrdd sydd eisiau deall y cyfleoedd y mae AI yn eu darparu yn well. 

  • Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu staff Trydydd Sector arall sydd, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan yn llywio cyfeiriad digidol

Gwybodaeth bwysig 

  • Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma. 

  • Un lle am bob sefydliad: Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad. 

  • Y broses ddethol: Rydym yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru felly byddem yn mynd drwy broses o ddewis.

  • Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.

  • Dyddiad cau

    • Modiwl 1: 20fed Hydref 2025 

    • Modiwl 2: 17eg Tachwedd 2025 

    • (Mae’n bosib y byddwn yn cau cofrestriad yn gynt os ydym yn cyrraedd ein capasiti.) 

Beth ydy Newid? 

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

​Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar ein gwefan.

Cadw ar flaen y newydd  

Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid

Hosted By