

Marchnata i Staff sy’n ‘Gwisgo Amryfal Hetiau’
Hyfforddiant ymarferol, rhad ac am ddim ar gyfer arweinwyr cyfathrebu mewn elusennau bach yng Nghymru, sy’n mynd i’r afael â’r rôl “yn niffyg dewis amgen”
A ydych yn teimlo mai “rhywbeth arall eto i’w wneud” yw marchnata a chyfathrebu, yn ychwanegol at lu o dasgau eraill?
Nid chi yw’r unig un i deimlo hyn.
Mae’r sesiwn hyfforddiant ymarferol a dymunol hon wedi’i llunio ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn elusennau bach ac yn sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru – pobl sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb dros y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau neu gyfathrebu, ochr yn ochr â nifer o rolau eraill yn aml.
Bydd y sesiwn hon yn berffaith os ydych eisoes yn postio o dro i dro, ond os nad ydych yn teimlo bod y gwaith yn cael ei wneud yn effeithiol. Ni fyddwn yn eich cynghori i fod ar bob platfform na chreu rhagor o gynnwys.
Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio ar wneud llai, yn well.
✍️ Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:
Diffinio eich Diben: Sut i gyrraedd y bobl iawn heb i hynny fod yn dreth ar eich amser.
Presenoldeb Digidol Effeithiol: Sut i fod yn weladwy i gyllidwyr trwy gael presenoldeb ar-lein diogel a phroffesiynol.
Peidio ag Ofni Metrigau: Arweiniad cyflym ar y pethau y mae angen eu holrhain mewn gwirionedd.
Offer ar gyfer Sicrhau Effeithlonrwydd: Prosesau syml ar gyfer ailddefnyddio cynnwys a symleiddio eich llwyth gwaith.
Hanfodion Cyfathrebu Dwyieithog: Awgrymiadau ymarferol ar gyfer rheoli cyfathrebu Cymraeg/Saesneg yn effeithiol.
Cewch dystysgrif ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, ynghyd â thempled marchnata rhad ac am ddim.
Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad.
🤹 Ar gyfer pwy y mae’r hyfforddiant hwn?
Mae’r hyfforddiant hwn yn berffaith ar gyfer y canlynol:
Microsefydliadau a sefydliadau bach yn y trydydd sector yng Nghymru
Arweinwyr, rheolwyr, ymddiriedolwyr, arweinwyr prosiectau, neu bwy bynnag sy’n gyfrifol am gyfathrebu “yn niffyg dewis amgen”
Sefydliadau nad oes ganddynt rôl bwrpasol yn ymwneud â chyfathrebu neu’r cyfryngau cymdeithasol
🚀 Beth ydy Newid?
Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar ein gwefan.
📬 Cadw ar flaen y newydd
Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid.