Cover Image for Marchnata i Staff sy’n ‘Gwisgo Amryfal Hetiau’
Cover Image for Marchnata i Staff sy’n ‘Gwisgo Amryfal Hetiau’
Hosted By

Marchnata i Staff sy’n ‘Gwisgo Amryfal Hetiau’

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Event Full
If you’d like, you can join the waitlist.
Please click on the button below to join the waitlist. You will be notified if additional spots become available.
About Event

Hyfforddiant ymarferol, rhad ac am ddim ar gyfer arweinwyr cyfathrebu mewn elusennau bach yng Nghymru, sy’n mynd i’r afael â’r rôl “yn niffyg dewis amgen”

A ydych yn teimlo mai “rhywbeth arall eto i’w wneud” yw marchnata a chyfathrebu, yn ychwanegol at lu o dasgau eraill? 

Nid chi yw’r unig un i deimlo hyn.

Mae’r sesiwn hyfforddiant ymarferol a dymunol hon wedi’i llunio ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn elusennau bach ac yn sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru – pobl sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb dros y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau neu gyfathrebu, ochr yn ochr â nifer o rolau eraill yn aml. 

Bydd y sesiwn hon yn berffaith os ydych eisoes yn postio o dro i dro, ond os nad ydych yn teimlo bod y gwaith yn cael ei wneud yn effeithiol. Ni fyddwn yn eich cynghori i fod ar bob platfform na chreu rhagor o gynnwys.

Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio ar wneud llai, yn well

✍️ Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu: 

  • Diffinio eich Diben: Sut i gyrraedd y bobl iawn heb i hynny fod yn dreth ar eich amser. 

  • Presenoldeb Digidol Effeithiol: Sut i fod yn weladwy i gyllidwyr trwy gael presenoldeb ar-lein diogel a phroffesiynol. 

  • Peidio ag Ofni Metrigau: Arweiniad cyflym ar y pethau y mae angen eu holrhain mewn gwirionedd. 

  • Offer ar gyfer Sicrhau Effeithlonrwydd: Prosesau syml ar gyfer ailddefnyddio cynnwys a symleiddio eich llwyth gwaith.

  • Hanfodion Cyfathrebu Dwyieithog: Awgrymiadau ymarferol ar gyfer rheoli cyfathrebu Cymraeg/Saesneg yn effeithiol. 

Cewch dystysgrif ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, ynghyd â thempled marchnata rhad ac am ddim. 

Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad. 

🤹 Ar gyfer pwy y mae’r hyfforddiant hwn? 

Mae’r hyfforddiant hwn yn berffaith ar gyfer y canlynol: 

  • Microsefydliadau a sefydliadau bach yn y trydydd sector yng Nghymru 

  • Arweinwyr, rheolwyr, ymddiriedolwyr, arweinwyr prosiectau, neu bwy bynnag sy’n gyfrifol am gyfathrebu “yn niffyg dewis amgen” 

  • Sefydliadau nad oes ganddynt rôl bwrpasol yn ymwneud â chyfathrebu neu’r cyfryngau cymdeithasol 

🚀 Beth ydy Newid? 

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

​Gwybodaeth bellach am ein gwaith ar ein gwefan.

📬 Cadw ar flaen y newydd  

Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid

Hosted By