Cover Image for Gwneud y gorau o Canva yn 2026: Sesiynau Digidol Newid
Cover Image for Gwneud y gorau o Canva yn 2026: Sesiynau Digidol Newid
Hosted By
4 Went

Gwneud y gorau o Canva yn 2026: Sesiynau Digidol Newid

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Past Event
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

​Ymunwch â'n Sesiwn Ddigidol Newid nesaf 

​Dysgwch sut all nodweddion 2026 diweddaraf Canva symleiddio eich proses ddylunio a rhoi hwb i effaith eich sefydliad.

​Dyma ofod pwrpasol i'r trydydd sector yng Nghymru weld adnoddau newydd ar waith a rhannu awgrymiadau ymarferol, fydd yn arbed amser, â chymheiriaid. 

​

​📝 Beth i'w ddisgwyl 

​Byddwn yn dechrau gyda chyflwyniad 60 munud i Canva a'i adnoddau diweddaraf, yna 30 munud mewn ystafelloedd trafod i rannu cyngor gonest a datrysiadau. 

​

​🧰 Byddwn yn trafod

  • ​Canva yn 2026 - Gloywi: Pam ei ddefnyddio, a'r diweddariadau rydych efallai wedi'u methu 

  • ​Adnoddau Magic ac AI: Cyflymu tasgau drwy ddefnyddio'r nodweddion AI diweddaraf. 

  • ​Datrysiadau Syml Penodol i Gymru: Creu cynnwys dwyieithog a hygyrch yn rhad. 

  • ​Dyluniad sy'n Unol â'r Brand: Cadw eich tîm yn "unol â'r brand" gyda Chitiau Brand a rennir. 

​

​👥 Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon?

  • ​Elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru 

  • ​Cwmniau Buddiant Cymunedol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol 

  • ​Unrhyw un sy’n gyfrifol am agweddau digidol, darparu gwasanaeth, cyfathrebu neu weithrediadau 

  • ​Pobl sydd ond newydd dechrau gydag agweddau digidol, a rhai sydd eisoes ar eu taith 

​P'un a ydych chi newydd gychwyn neu'n edrych i wella gwasanaethau presennol, byddwch chi'n cael mewnwelediadau ymarferol i'w rhoi ar waith yn eich sefydliad.

​

​📢 ​Sesiynau Digidol Newid 

​​Mae’r sesiwn hon yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau newydd a elwir yn ‘Sesiynau Digidol Newid’ a luniwyd ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru er mwyn rhannu pethau a ddysgwyd a chynnal trafodaethau gonest. I gael rhagor o wybodaeth am y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Newid. 

​​

​​🚀 Beth ydy Newid? 

​​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

​

​📬 ​Cadw ar flaen y newydd  

​​Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid.

Hosted By
4 Went