Cover Image for Gwneud y gorau o Canva yn 2026: Sesiynau Digidol Newid
Cover Image for Gwneud y gorau o Canva yn 2026: Sesiynau Digidol Newid
Hosted By

Gwneud y gorau o Canva yn 2026: Sesiynau Digidol Newid

Hosted by ProMo Cymru
Zoom
Registration
Approval Required
Your registration is subject to host approval.
Welcome! To join the event, please register below.
About Event

Ymunwch â'n Sesiwn Ddigidol Newid nesaf 

Dysgwch sut all nodweddion 2026 diweddaraf Canva symleiddio eich proses ddylunio a rhoi hwb i effaith eich sefydliad.

Dyma ofod pwrpasol i'r trydydd sector yng Nghymru weld adnoddau newydd ar waith a rhannu awgrymiadau ymarferol, fydd yn arbed amser, â chymheiriaid. 

📝 Beth i'w ddisgwyl 

Byddwn yn dechrau gyda chyflwyniad 60 munud i Canva a'i adnoddau diweddaraf, yna 30 munud mewn ystafelloedd trafod i rannu cyngor gonest a datrysiadau. 

🧰 Byddwn yn trafod

  • Canva yn 2026 - Gloywi: Pam ei ddefnyddio, a'r diweddariadau rydych efallai wedi'u methu 

  • Adnoddau Magic ac AI: Cyflymu tasgau drwy ddefnyddio'r nodweddion AI diweddaraf. 

  • Datrysiadau Syml Penodol i Gymru: Creu cynnwys dwyieithog a hygyrch yn rhad. 

  • Dyluniad sy'n Unol â'r Brand: Cadw eich tîm yn "unol â'r brand" gyda Chitiau Brand a rennir. 

👥 Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon?

  • Elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru 

  • Cwmniau Buddiant Cymunedol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol 

  • Unrhyw un sy’n gyfrifol am agweddau digidol, darparu gwasanaeth, cyfathrebu neu weithrediadau 

  • Pobl sydd ond newydd dechrau gydag agweddau digidol, a rhai sydd eisoes ar eu taith 

P'un a ydych chi newydd gychwyn neu'n edrych i wella gwasanaethau presennol, byddwch chi'n cael mewnwelediadau ymarferol i'w rhoi ar waith yn eich sefydliad.

📢 ​Sesiynau Digidol Newid 

​Mae’r sesiwn hon yn rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau newydd a elwir yn ‘Sesiynau Digidol Newid’ a luniwyd ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru er mwyn rhannu pethau a ddysgwyd a chynnal trafodaethau gonest. I gael rhagor o wybodaeth am y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Newid

​🚀 Beth ydy Newid? 

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

📬 ​Cadw ar flaen y newydd  

​Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid.

Hosted By